Storïau Merched Chwarel Stories
Cyflwydiad
Cyn belled ag y gwyddwn, nid oedd merched yn gweithio mewn chwareli llechi mewn unrhyw fodd, yn enwedig ar ôl cyfnod cynnar chyfalafiaeth a datblygu'r diwydiant. Ychydig hefyd sydd i wybod am wraig a merch y chwarelwr… Merfyn Jones, North Wales Quarrymen.
Fan hyn rydym yn casglu straeon o "Merched Chwarel".
Mae diffyg cofnod merched yn gweithio yn y diwydiannau chwarel llechi ac ithfaen yn wahanol â meysydd eraill fel y 30,000 o "Bal Maidens" yn gweithio yng Nghernyw, neu fenywod ym mydgloddiau Sir Amwythig. Serch hyn, y mae cofnodion o ferched yn gweithio gyda'r ceffylau a mulod i gludo llechi, ac y Copr Ladis yn chwarel copr Mynydd Parys, o gwmpas y 1800au. Meddai Mair Williams o Laneilian, "byddai tua 80 o wragedd yn gweithio mewn un sied, pawb yn eistedd ar stolion bychain o flaen y bwrdd yn curo a hynny am ddeuddeg awr ar y tro. Wrth ddefnyddio carreg guro sef morthwyl bychan o haearn oedd yn pwyso tua phedwar pwys - roedden nhw'n curo darnau o'r graig yn llai ar gyfer y ffwrneisi...Nain ddywedodd hanes y Copr Ladis wrtha' i gan fod ei mam a'i nain hi wedi gweithio yn y cytiau copr. Mi benderfynais ddysgu mwy am eu hanes gan astudio cyfrifiadau y 1800au ond does na ddim llawer o sôn amdanyn nhw yno. Doedd merched ddim mor bwysig bryd hynny a'r drefn oedd eu cyfri naill ai fel gwraig neu ferch i'r pen teulu.”
Yn ôl straeon, dau o reolau'r chwareli oedd: 'dim merched' a 'dim chwiban' gan fod y ddau yn cael eu hystyried yn lwc ddrwg sy'n debygol o alw’r diafol ! ” Fel y dywedodd Rhys Mwyn, yn Yr Herald Gymraeg yn dilyn ein Digwyddiad Rhannu yn 2017 "Drwy or-ramantu am y bywyd caled dynol yn y chwareli rydym wedi llwyr anwybyddu rôl y ferch.”
Ein nod yw llenwi'r bylchau, a gwneud y straeon o ferched sy'n gysylltiedig â chwarel yn ganolog i'n profiad cyfoes o chwareli. Y mae yna stori fwy i'w ddweud !
Os hoffech chi gyfrannu hanes hanesyddol, cyfoes neu ddyfodol Merched Chwarel, boed yn rhannol, bersonol, chwedlonol neu'n ddychmygol anfonwch e-bost mewn unrhyw fformat (gan gynnwys lluniau, dolenni gwe, ffeiliau sain ayyb ) i lindsey.colbourne@me.com
Introduction
"As far as is known, no woman worked in a slate quarry in any capacity,
certainly not after the early period of capitalisation and development of the industry ...
and little is known about the quarryman's wife and daughter"
- Merfyn Jones, North Wales Quarrymen
In this section, we are gathering stories of "Merched Chwarel".
As Rhys Mwyn said, in his article in Yr Herald Cymraeg, "By romanticising the overly hard human life of the man in the quarries, we have completely ignored the women". The lack of women working in the slate quarry industries stands in stark contrast to other areas, and in relation to other types of quarrying (such as copper, lead and manganese - see more here.
We are not clear at all why women were so completely absent in the slate quarries, although we have heard that two of the rules of the quarries were: ‘no women’ and ‘no whistling’ - both were considered bad luck likely to bring the devil. Was the underpinning reason that wearing white clothes, the quarrymen particularly needed women at home washing!?? Any insights are very welcome!
But what of the women in the wider communities surrounding the quarries - “women within the cultural landscape rather than quarry as a workplace” (as Dafydd Gwyn put it to us).
In this section of the website, we are trying to join the dots and fill in the gaps, exploring women's quarry-related (past, present and future) stories which could inform our contemporary relationship with the quarry/cultural landscape.
If you would like to contribute a historic, contemporary or future Merched Chwarel story, whether it epic, partial, personal, real, legendary or imaginary, please email in any format (including pictures, weblinks, sound files) to lindsey.colbourne@me.com
or come to one of our events, all welcome!
Y Storïau - The Stories
Cliciwch ar y lluniau / Click on the images to find out more