Côr Merched y Penrhyn
- gan Caleb Rhys Jones
1901 - 1903
Gellir dadlau bod hanes Streic Fawr y Penrhyn (1900-1903) yn cael ei adrodd o safbwynt gwrywaidd – y Lord a’i chwarel, y streicwyr a’r bradwyr, y meistr a’i weision. Mae’r chwarelwyr mor amlwg i ni yn yr hanes nes ein bod yn tueddu i anghofio am y merched a’r teuluoedd a effeithiwyd arnynt gan y streic. Mae hanes Côr Merched y Penrhyn, neu’r Penrhyn Welsh Ladies Choir, yn un enghraifft o ymdrechion merched yr ardal i leddfu effaith y streic ar deuluoedd Dyffryn Ogwen.
Sefydlwyd y côr merched yn ystod Gwanwyn 1901 ar gais Pwyllgor Cronfa Streic y Penrhyn, a dechreuodd y côr gynnal cyngherddau ym mis Mai y flwyddyn honno. Roedd yna ddau gôr meibion eisoes wedi dechrau ar y gwaith o gynnal cyngherddau elusennol ar ran y pwyllgor yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Corau’r streic oedd rhain, a dreuliodd yn agos i dair mlynedd yn cynnal cannoedd o gyngherddau. Roedd y cyfraniad yn un clodwiw a fu’n gymorth a chefn i gynhaliaeth degau o deuluoedd yn eu hymdrech i wrth-sefyll caledni’r streic.
Aelodau’r côr
Côr o 21 aelod oedd Côr Merched y Penrhyn. Roedd yna bedwar llais o fewn y côr: soprano cyntaf (6); ail soprano (5); alto cyntaf (3); ail alto (6). Mae’r llun isod yn nodi enw, llais, a swyddogaeth yr aelodau.
Arweinydd y côr merched oedd Mary Ellen Parry, neu ‘Llinos y Bryn’. Roedd hi’n ferch i’r cerddor R. J. Parry ‘Alawydd’ (Penybryn, Bethesda), a gwnaeth argraff ragorol ar y cynulleidfaoedd bu’n gwrando ar y côr. Dyma ddisgrifiad Elfed Jones ohoni - ‘Merch ifanc brydweddol oedd yr arweinyddes, ac ni all geiriau gyfleu personoliaeth ddisglair y foneddiges…’ Roedd ganddi lais canu eithriadol o swynol – cymaint oedd ei dawn nes i un bonheddwr gynnig talu am addysg cerddorol iddi! Un o’i champau mwyaf oedd ennill cystadleuaeth am ganu’r unawd ‘O Pam Na Bai Llywelyn’ yn erbyn y gantores dalentog, Megan Llechid, yng Nghapel Bethania (Bethesda), 1901.
Robert Owen Jones Owen oedd y cyfeilydd, a’r unig ddyn ymhlith y côr o ferched. Roedd yn gweithio fel athro cerdd, ac er mai Mary Parry oedd yr arweinydd, ef oedd yn gyfrifol am hyfforddi’r côr. Mae’n amlwg bod y gwaith wedi talu ar ei ganfed gan i’r côr dderbyn croeso a chymeradwyaeth arbennig ym mhob un o’u cyngherddau. Mae sawl erthygl papur newydd yn disgrifio mor gefnogol oedd cynulleidfaoedd o waith y côr. Does dim amheuaeth bod profiad cerddorol Robert Owen fel athro wedi bod o fantais mawr i’r côr yn eu llwyddiant.
Mae cyfraniad dwy chwaer, Clarissa ac Edith Davies (Victoria Place, Bethesda), yn flaenllaw yn hanes y côr merched. Roedd eu tad, Price Davies, yn gigydd ym Methesda. Teithiodd eu brawd, Willie Davies, gydag un o’r corau meibion fu’n casglu at y drysorfa gynorthwyol. Bu’r ddwy yn amlwg iawn mewn nifer o gystadleuaethau cerddorol ac yn fuddugol ar sawl achlysur. Soprano oedd Edith, ac roedd hi’n llwyddiannus fel unawdydd gyda’r côr. Llais contralto cyfoethog iawn oedd gan Clarissa, ac enillodd gystadlaeuaeth y goron arian yng Nghonwy, 1902. Derbyniodd glôd mawr am ei chyfraniad fel unawdydd yng nghyngherddau’r côr merched.
Unawdydd ac aelod blaenllaw arall o’r côr merched oedd Margaret Jane Parry, ‘Megan Llechid’ - neu Madame Megan Telini. Cafodd ei magu ar aelwyd eithriadol o ddiwylliedig. Caiff ei thad, Robert Parry ‘Trebor Llechid’, ei adnabod fel gohebydd lleol Y Faner ar gyfer Bethesda. Ei thaid, William Parry ‘Llechidon’, oedd awdur Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai. Mawr oedd dylanwad y fagwraeth yma ar fywyd Megan Llechid. Erbyn 1902, roedd hi wedi bod yn fuddugol mewn dros 350 o gystadleuthau, gan gynnwys cystadleuaeth unawd Eisteddfod Blaenau Ffestiniog 1898 pan roedd 43 o unawdwyr yn cystadlu! Mae’n debygol bod y penderfyniad i briodi a symud i fyw i Gaeredin yn 1902, a’r gofyn cynyddol am ei gwasanaeth fel unawdydd proffesiynol, wedi golygu nad oedd hi’n bosib i Megan Llechid deithio gymaint gyda’r côr merched. Byddai’n ymuno â’r côr ar brydiau, fel yn Andover ar Chwefror 11eg, 1903.
Aeth Megan Llechid yn ei blaen i ddilyn gyrfa llewyrchus fel cantores broffesiynol, gan symud i fyw a gweithio yn Llundain a’r Eidal. Cafodd hyfforddiant lleisiol gan Ernesto Caronna, bariton operatig enwog o’r Eidal. Ef oedd yn gyfrifol am fathu’r enw llwyfan ‘Madame Telini’ (amrywiad ar “Ein Telyn Ni”). Roedd trawsnewidiad Megan Llechid - yr unawdydd, i Madame Telini - y prima donna, bellach ar waith. Er iddi ganu peth opera, roedd hi i’w clywed gan amlaf ar lwyfannau cyngerdd mawr Llundain – Neuadd y Frenhines, Neuadd Steinway, Neuadd Wigmore a Neuadd yr Aeolian. Canai yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg Eidaleg, a ‘Gallai roi’r fath deimlad yn ei chanu nes tynnu dagrau o lygaid ei gwrandawyr.’ (Y Cloriannydd, 31/1/1940)
Fel gellir dychmygu, roedd llawer iawn o waith trefnu i’w wneud ar gyfer y côr merched. Roedd hyn yn cynnwys trefnu cyngherddau a digwyddiadau ar gyfer y côr, yn ogystal â’r holl anghenion teithio ac aros – cyfrifoldeb a hanner! Y gŵr cyntaf fu’n gyfrifol am y gwaith trefnu oedd Richard Thomas, Caerberllan. Bu’n gweithio fel rheolwr yn Chwarel Pantdreiniog cyn symud i fyw i Dde Affrica yn 1902, a chael gwaith fel rheolwr chwarel yno.
Yn dilyn ymadawiad Richard Thomas o’r ardal, trosglwyddwyd yr awennau i John Bangor Jones, cerddor adnabyddus iawn yn Nyffryn Ogwen. Cafodd hyfforddiant lleisiol gan gyd-chwarelwr, ac roedd yn meddu ar lais canu da. Gweithiodd yn galed i gael gafael gadarn ar elfennau cerddoriaeth, ac roedd gofyn mawr am ei wasanaeth fel unawdydd ac arweinydd yn yr ardal. Cyfaill pennaf iddo oedd Owen Davies, ‘Eos Llechid’. Sefydlwyd y côr enwog a berfformiodd i’r Frenhines Fictoria yng Nghastell Penrhyn gan y ddau yn 1859. Gwnaeth lawer i gynorthwyo tlodion ei ardal drwy drefnu cyngherddau elusennol. Roedd y profiad yma’n ddefnyddiol iawn wrth iddo fynd ati i drefnu cannoedd o gyngherddau’r côr merched rhwng 1901 ac 1903.
Teithiau’r côr
Teithiodd Côr Merched y Penrhyn yn helaeth o amgylch Cymru a Lloegr yn ystod blynyddoedd y streic. Cafodd cyngherddau cyntaf y côr eu cynnal yn Llanaelhaearn a Chlynnog yn ystod wythnos gyntaf Mai, 1901. Ar Fai 6ed, bu’r côr yn canu i gynulleidfa o 4,500 yng Ngŵyl Lafur Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym Methesda. Erbyn Mai 22ain, 1901, roedd y côr wedi teithio i Lundain am y tro cyntaf, ac yn canu mewn cyfarfod cyhoeddus mawreddog yn y Memorial Hall, Farringdon. Roedd William Jones, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Arfon, a Keir Hardie, Aelod Seneddol Llafur Merthyr Tudfil, yn bresennol yn y cyfarfod. Tybiwyd bod 4,000 o bobol wedi ymgynnull i wrando. Ar ôl treulio’r cyfnod cyntaf yma yn Llundain, teithiodd y côr i ganu mewn trefi eraill, fel Caerlŷr. Dychwelodd y côr yn ôl i Lundain a chynnal cyngherddau yn Battersea Park, Chelsea, Islington, Walham Green a Victoria Park. Cafwyd torfeydd enfawr eto – oddeutu 5,000 yn Battersea Park (casglu £12), a 3,000 yn Victoria Park (casglu £29). Mae’r erthygl ganlynol o The North Wales Express yn disgrifio’r olygfa rhyfeddol yn Battersea Park.
Daeth taith y côr i ben yn wythnos olaf Gorffennaf 1901. Syfrdanwyd y teuluoedd wrth glywed am hynt a helynt y côr ar eu taith gyntaf!
Cofnodwyd manylion rhai o’r cyngherddau gan Mary Parry, yr arweinyddes, mewn dyddiadaur bach poced – mae yna gannoedd o wahanol drefi a dinasoedd yn cael eu rhestri ganddi. Yn ogystal, roedd hi’n cadw cofnod manwl o’r arian oedd yn cael ei anfon adref ganddi.
Roedd taith Medi-Rhagfyr 1902 yn daith epig, ac yn cynnwys 90 o gyngherddau. Teithiodd y côr o amgylch Lloegr, gan ymweld â threfi fel Peterborough, Chesterfield, Coventry, Caerlŷr a Northampton. Bu’r côr yn ymweld â phentrefi bach yng nghefn gwlad Lloegr hefyd, fel Tibshelf, Ripley a Belper. Cyrhaeddodd y côr Llundain ar Hydref 18fed, gan dreulio pythefnos yn y brifddinas. Oddi yno, teithiodd y côr i Reading, Rhydychen, Luton a St Albans. Gadawyd Llundain am ogledd Lloegr ar Hydref 24ain, gan dreulio pythefnos mewn trefi fel Derby, Mansfield, Sheffield a Newark. Teithiodd y côr yn ôl adref i Fethesda ar Ragfyr 15fed, a gydag hynny daeth taith olaf 1902 i ben.
Cafodd y côr seibiant o dair wythnos dros y Nadolig a’r Calan, cyn mentro yn ôl i deithio ar Ionawr 10fed, 1903. Taith y trefi a’r dinasoedd mawr oedd hon – Lerpwl, Manceinion, Wolverhampton, Birmingham, Bryste, Bath, Salisbury, Southampton, Portsmouth, Brighton, Llundain ac Yeovil. Yn achlysurol, byddai cymaint â pedwar cyngerdd mewn un diwrnod, ac roedd dydd Sul yn ddiwrnod eithriadol o brysur i’r côr. Dosbarthwyd y rhaglen yma mewn cyngerdd yn Neuadd YMCA Bryste, ar Ionawr 28ain, 1903. Ceir syniad o repertoire y côr a strwythr y cyngherddau. Gellir gweld bod y rhan fwyaf o ganeuon y côr yn nodweddiadol o ganu Cymreig poblogiadd y cyfnod.
Mae hi’n ddiddorol nodi pa mor amrywiol yw’r rhaglen. Yn ogystal ag eitemau’r côr, rhestrir unawdau, deuawdau, triawdau a phedwarawdau. Caiff enwau’r merched oedd yn cyfrannu mewn eitemau eu nodi yn y golofn ar y dde. Rhoddodd gyngherddau’r côr lwyfan i’r merched hyn gael y profiad o ganu’n gyhoeddus fel unawdwyr lleisiol – rhywbeth na fyddai’n cael ei gynnig i lawer o ferched yn ystod y cyfnod, yn enwedig i ferched chwarelwyr tlawd. Dylid tynnu sylw at eitem rhif 20, y gân ‘Lord Our Saviour Keep Us Nigh’, gan mai Robert Owen (y cyfeilydd) oedd wedi cyfansoddi’r darn. Galluogodd cyngherddau’r côr iddo ymarfer ei grefft fel cyfansoddwr, a rhoi ei waith gerbron cynulleidfaoedd cyhoeddus.
Ar Chwefror 4ydd, teithiodd y côr i Weymouth, ac oddi yno i Ynys Portland. Roedd yr ynys yn gartref i garchar Portland, a cafodd y merched gyfle i ymweld â’r lle ar Chwefror 6ed. Arferai’r carcharorion gael eu defnyddio ar gyfer gwaith adeiladu a chwarela ar yr ynys. Dyma gofnod o’r achlysur.
Ar Fawrth y 6ed, rhoddodd William Jones, yr Aelod Senyddol Rhyddfrydol dros Arfon, wahoddiad i chwe aelod gael taith dywysedig o amgylch Senedd Westminster – profiad bythgofiadwy! Roedd hi’n addas iawn mai William Jones hebryngodd aelodau’r côr soniarus hwn o amgylch y senedd. Yn ôl y sôn, roedd yn meddu ar lais melfedaidd. ‘William Jones, William Jones; how we admire your silvery tones’ oedd y rhigwm poblogaidd ymysg Rhyddfrydwyr y cyfnod hwnnw. Dyma adroddiad o’r hanes yn Yr Herald Cymraeg, Mawrth 30ain, 1903.
Erbyn Mawrth 30ain, 1903, roedd y côr wedi dychwelyd i Fethesda ar ôl taith 13 wythnos. Derbyniodd Mary Parry a Robert Owen glôd arbennig a chanmoliaeth am eu ffyddlondeb i’r côr, a diolchwyd i bob aelod o’r côr am eu presenoldeb a’u cysondeb gydol y teithiau. Ymhen llai na 3 wythnos, roedd y côr ar daith unwaith eto. Cafwyd 41 o gyngherddau yn nhrefi diwydiannol gogledd Lloegr rhwng Ebrill 18fed a Mai 30ain, 1903 – Manceinion, Barnsley, Leeds, Efrog, Scarborough, Doncaster, Oldham. Manylir ychydig ar ddigwyddiadau’r daith hon yn nyddiadur bach poced Mary Parry, ac mae’r cynnwys yn eithriadol o ddiddorol.
Dychwelodd y côr adref am wythnos yn unig ar Fai 30ain, cyn troi am y daith olaf rhwng Mehefin 6ed a Gorffennaf 11eg, 1903 – Dewsbury, Harrogate, Durham, Bradford (am wythnos) a Lerpwl. Ni fyddai’r côr yn mentro dros y ffîn i swyno cynulleidfaoedd eto.
Fel daeth diwedd i’r Streic Fawr ar Hydref 22ain, 1903, daeth ddiwedd i waith corau’r streic hefyd. Erbyn diwedd y teithio, casglwyd swm anhygoel o £8,190.18s.2½c gan Gôr Merched y Penrhyn. Ar ôl diddymu costau teithio (£5,538), yr elw terfynol oedd £2,658 (cyfwerth â £325,000 yn 2020). Mae hi’n anodd iawn i ni heddiw sylweddoli aberth y merched hyn – mamau, gwragedd, plant a chariadon, yn gadael eu bro i fentro ar antur fwyaf eu bywydau. Cafodd yr aelodau brofiadau arbennig a bythgofiadwy yn sgîl gwaith y côr merched, ac roedd ymdrechion y côr at gefnogi teuluoedd y streic yn gyfraniad amhrisiadwy. Does dim dianc rhag erchylldra’r streic, ond mae hanes Côr Merched y Penrhyn a’i chân yn adlewyrchu’r hyn oedd orau ym mywyd Bethesda a’r fro.
Caleb Rhys Jones
Mae Caleb yn enedigol o Gerlan, ger Bethesda. Astudiodd am radd Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Testun ei draethawd hir oedd tarddiad canu corawl yn ardal Dyffryn Ogwen, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yng nghyfoeth hanes cerddoriaeth yr ardal. Roedd penderfyniad Caleb i ymuno a Chôr y Penrhyn yn 2013 yn ddylanwad mawr ar ei astudiaethau, ac mae bellach yn is-arweinydd y côr. Ers Medi 2019, mae Caleb yn astudio am radd meistr yn y Royal Northern College of Music, Manceinion, gan arbenigo yn y llais.
Ffynonellau
William Parry, Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai (Bangor: J. Mendus Jones, 1868).
Elfed Jones, Côr Meibion y Penrhyn Ddoe a Heddiw (Dinbych: Gwasg Gee, 1984).
Penrhyn Ladies Choir (Bangor Civic Society).
Y Cerddor; Y Ford Gron.
Yr Herald Cymraeg; The North Wales Express; Y Cloriannydd; Carnarvon and Denbigh Herald.
Dyddiadur Mary Ellen Parry. Trwy garedigrwydd Brenda Wyn Jones.