Karen Owen, Dyffryn Nantlle

Bardd, newyddiadurwraig a darlledydd - poet, journalist and broadcaster


Credit Llun: Iolo Penri

Credit Llun: Iolo Penri

Newyddiadurwr, darlledwr a bardd o Ben-y-groes, Dyffryn Nantlle, ydi Karen, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith ac wedi perfformio ledled y byd. Enillodd gystadleuaeth llefaru agored yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol, yn 2013 a 2014, ac ym mhrifwyl Caerdydd 2018, hi oedd enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn (Rhuban Glas yr adran Llefaru). Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Pen-y-groes, Ysgol Dyffryn Nantlle a Phrifysgol Cymru Bangor, lle bu’n astudio Mathemateg Bur cyn penderfynu newid cyfeiriad a gwneud gyrfa ym maes newyddiaduraeth.

Ymunodd â staff y cylchgrawn Golwg yn 1995 yn ohebydd Celfyddydau, a daeth yn olygydd y cylchgrawn yn 2000, pan yn 26 oed. Wedi hynny, bu’n gynhyrchydd rhaglenni crefydd BBC Cymru; yn ohebydd llawrydd dadleuol i bapur newydd Y Cymro; a hi bellach ydi golygydd gwasanaeth newyddion ar-lein golwg360. Fe fu’n golofnydd wythnosol i bapur enwadol Y Goleuad am saith mlynedd, ac mae wedi cyfrannu yn helaeth i’r cyfnodolion Barddas, Barn, Poetry Wales, Tu Chwith a Taliesin, ymysg eraill.

Yn 2009, fe fu ei gwaith ymchwil yn olrhain llofrudd ei hen-nain yn Y Felinheli yn 1949 yn sail i raglen deledu drawiadol, Cyfrinach Olaf Frida gan y BBC i S4C. Mae Karen wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi – Yn Fy Lle (2006), Siarad Trwy’i Het (2011) a Glaniad (2015 ) ar y cyd â Mererid Hopwood. Enillodd Siarad Trwy’i Het y ‘dwbwl’ yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2012 – gwobr Barn y Bobol (pleidlais gyhoeddus) a’r categori Barddoniaeth (barn y beirniaid). Mae Karen hefyd wedi cynhyrchu cryno-ddisg o’i cherddi – Lein a Bît yng Nghalon Bardd (2016), 7Llais (2017) a Fy Iawn Dwyll (2019). Mae wedi cydweithio gyda cherddorion fel Geraint Jarman, Robat Arwyn, Cowbois Rhos Botwnnog, Gwenan Gibbard a 9Bach; ac mae'n cynnal dosbarthiadau a gweithdai barddoniaeth mewn ysgolion, ysbytai a charchardai yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag i Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol Ty Newydd.

Mae’n athro barddol, yn dysgu Cynghanedd i bobol o bob cefndir, ac mae’n feirniad poblogaidd mewn eisteddfodau lleol, taleithiol a chenedlaethol. Mae hithau hefyd yn cystadlu mewn ymrysonau ledled y wlad, a hi ydi capten tîm Fforddolion ar raglen Talwrn ar Radio Cymru. Ym mis Medi 2017, roedd Karen yn un o feirdd Her 100 Cerdd, dan nawdd Llenyddiaeth Cymru, pryd y bu’n cyd-gyfansoddi yn ddi-dor am 24 awr gyda Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne a Gwynfor Dafydd. Yn 2011, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Winston Churchill i deithio i India, Colombia, Yr Wcrain a De America i astudio traddodiadau barddol y gwledydd hynny. Yn 2014-15, fe dreuliodd hanner blwyddyn yn byw yn Fienna, prifddinas Awstria, yn darlithio ar Lenyddiaeth Cymru yn y brifysgol yno, ac yn byw mewn cwfaint dinesig.

Karen sydd piau geiriau ‘Yn y dyffryn hwn’, anthem Dyffryn Nantlle – prosiect cymunedol gyda Bryn Fôn, Craig ab Iago (Pencampwr y Gymraeg, Cyngor Gwynedd), Cefin Roberts a Justin Davies (Gwibdaith Hen Frân). Dyma’r unig ardal yng Nghymru sydd â'i hanthem ei hun.