Copr Ladis

Mynydd Parys Mountain Amlch


copperladies2.jpg

“… Maent oll yn ferched medrus
A hwylus hefo’u gwaith,
A’u henwau geir yn barchus
Gan fwynwyr o bob iaith;
Hwy weithient oll yn galed
Am gyflog bychan iawn.
O’r braidd cant drigain ceiniog
Am weithio wythnos iawn….

… Er hynny maent a’u tyau
Bob un un llawn o fwyd;
Y te a’r peilliad goreu -
Nid Llaeth a bara llwyd;
A’r cofffi cry’ ac wyau,
A chig y mochyn du,
A chrampog deneu’n nofio
Mewn menyn ymhob tÿ.”

Gwaith y merched hyn, ran amlaf, oedd torri’r mwyn yn ddarnau bach. Ymffrostient nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn waith caled iawn gan fod y merched i gyd wedi hen arfer ag oriau hir a dwys ar y ffern neu’n troelli gwlân. Byddai tua 60 - 80 o ferched yn gweithio ar y tro, dan do, mewn sied fawr bren, swnllyd. Eisteddent ar stolion, yn rhesi o drigain, weithiau bedwar ugain yn wynebu ei gilydd. Byddai nifer o bland yn gweini arnynt ac roedd pawb yn ddiolchgar nad oeddent, fel mewn gweithfeydd eraill, yn forgfod gweithio dan ddear. Am eu llafur derbynient fwy o gyflog na gwas fferm/morwyn fach ac ym mylynyddoedd cynnar y bedwaredd ganriff ar bymtheg y cyflog oedd 10c am shifft o ddeuddeg awr neu chewe swllt yr wythnos - a oedd yn ddwywaith cyflog gweithiwr fferm ar y pryd. Yn ogystal â hyn, wedi iddynt fynd yn hen a methedig, gyda gobaith, caent bensiwn o 18c yr wythnos.

Un o hynodrwyddd y Copar Ladis oedd eu dillad gwaith. Eilbeth oedd ffasiwn iddynt wrth gwrs: ymarferoldeb oedd yn bwysig. Byddent ‘…yn ddychryn i blant bach y gumdogeth gan y byddent yn gwisgo maneg haern ar un llaw ac yn cario orthwyl yn y llall. Gwisgent bais o stwff cartref a becwn o barclod o ffunen felen wedi ei phlygu’n groesgongl am eu pennau’. I gorogi’r cwbl, gwigent het Jim Cro’.
- J Richard Williams

Yn “Mynydd Parys - ‘Lle bendith? - Lle melltith Môn’” gan J. Richard Williams, mae’r ‘Copar Ladis’ ac eu gwaith yn cael eu descrifio, yn cynnwys Jên Ifas, Mary Morris, Phebi Morus, Siani Roland, Cadi Rondol… Mae o’n deud bod yr enwau bedydd cyffredin oedd Ann(e), Catherine, Elinor, Elisabeth, Grace, Hannah, Jane, Margaret, Mary…. yr enwau bedydd anghyffredin oedd Agnes, Erminia, Lettie, Lettitia, Modlan. Y cyfenwau cyffredin oedd Davies, Edward(s), Ellis, Griffiths, Hughes, Jones, Lewis, Owen, Parry, Richard, Roberts, Rowland(s), Thomas, Williams. Y cyfenwau anghyffredin oedd Matthews, Ross.

In 1819 Michael Faraday visited the mines and described the work of the copper ladies at Mynydd Parys Mountain near Amlwch.

"...The ore is raised from the mine by the whimsy in large heavy masses and is then thrown over a stage onto the ground below where it comes into charge of the cobbers, principally women and boys. We came up to a large group of these, about 8 or 9 women were sitting on the ground in the midst of heaps of ore of the large and small, their mouths were covered with a cloth to keep the dust of the ore from entering with the breath.

The fingers and thumb of the left hand were cased in strong iron tubes forming a sort of glove. A large hammer was handled in the right hand and a block of ore placed before them served as an anvil. Thus furnished they were employed in breaking lumps of ore into small pieces and selecting the good from the bad."

Read Cadi Rondol’s story by Owen Griffiths

Watch the Merched Mynydd Parys performance at the 2017 National Eisteddfod

Listen to Bwthyn Cadi Rondol cantata