(English below)
Dewch i’r gweithdy llais dwyieithog hwyliog yma yn Amgueddfa Llechi Cymru, Llanberis efo’r ysbrydoledig Sam Frankie Fox. Mae’r gweithdy wedi ei gynllunio i ddatblygu eich llais chi ac un ninnau, Merched Chwarel. Mi fydd yn anffurfiol iawn - does dim angen profiad blaenorol!
Mae Sam yn arbenigo mewn archwilio holl ystod y llais dynol mewn ffordd chwareus ac atyniadol. Fe fydd yn ein harwain trwy gyfres o gemau a chymeriadau lleisiol, dilyniannau galw ac ymateb a chaneuon unsain a harmoni syml. Byddwn yn defnyddio’r llais llafar yn ogystal â’r gân yn y gweithdy hwn. Fel rhan o’r profiad, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn creu offeryn llechen bach i gyfeilio i’r llais; rhywbeth y gallwch ei gymryd adref efo chi.
Byddwn yn cychwyn tu mewn yn yr amgueddfa, ac os yw’r tywydd yn caniatau, gobeithiwn fynd allan i Chwarel Vivian i arbrofi – a datblygu – ein synnau chwarel.
Mae’r gweithdy dwyieithog yma ar gyfer y rhai sydd dros 18.
Bydd mynediad llawn i safleoedd y gweithdy tu mewn a thu allan.
Cost y gweithdy yw £5, a chyfyngir y llefydd i 15. Bwciwch yma!
_____________
Come to this fun, bilingual, voice workshop at Amgueddfa Llechi Cymru Slate Museum in Llanberis, with the inspirational Sam Frankie Fox. The workshop is designed to help develop your own - and our collective Merched Chwarel voice. It will be very informal - no previous experience necessary!
Sam specialises in exploring the full range of the human voice in a playful, approachable way. She will guide us through a series of vocal games, vocal characters and archetypes, call and response sequences and some unison and simple harmony songs. We will use both the sung and the spoken voice for this workshop. As part of the experience, participants will make a mini slate instrument to accompany the voice; something that you can take home with you.
We will start off indoors in the Caban in the museum, and weather permitting, we may go to Chwarel Vivian Quarry to try out - and develop - our quarry sounds.
This bilingual workshop is for over 18s.
The indoor and outdoor workshop will be fully accessible.
This workshop is £5, and spaces are limited to 15. Book here!