Darllenais ddyfyniad yn ddiweddar gan yr arlunydd Banksy a oedd yn awgrymu “fod pethau da yn dod os da chi’n disgwyl ddigon hir”, efallai wir, ond yn sicr mae pethau diddorol yn digwydd heb i rhywun eu disgwyl. Wythnos yn ôl cefais wahoddiad i fynychu gweithdy yn yr Amgueddfa Llechi yn Llanberis yn dwyn yr enw ‘Merched Chwarel’. Doedd gennyf fawr o syniad beth i’w ddisgwyl.
Yr arlunydd Lindsey Colbourne yrrodd y gwahoddiad. Yn cydweithio a hi roedd tair artist arall, Marged Pendrell, Lisa Hudson a Julie Williams. Lindsey rwyf yn adnabod drwy’r prosiect ‘Digging Down’ lle bu Lindsey yn creu gwaith celf yn seiliedig ar wrthrychau wedi eu darganfod mewn tomen sbwriel Fictoraidd yn Nant Peris. Julie rwyf yn ei hadnabod drwy ei gwaith yn peintio lluniau meini hirion Môn gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a disgyblion ysgol o’r ynys.
Dyma ein llwybrau, ein crwydriadau hanesyddol, ein seicoddaearyddiaeth archaeolegol yn cyd-redeg unwaith eto. Yn ddiddorol iawn, roedd y pedair artist wedi rhestru ‘seicoddaearyddiaeth’ fel un o amcanion eu maniffesto / gwaith celf / gwaith ymchwil. Gofynais iddynt am yr elfen ‘seicoddaearyddiaeth’ achos rwyf yn ddilynwr brwd o’r ddamcaniaeth yma o grwydro ac arsylwi ar y dirwedd ond doeddwn ddim yn disgwyl hyn yng nghyd destun hanes y chwareli llechi.
Dychmygais daith gerdded gyda merched yn unig yn crwydro llwybrau Dinorwic neu Dorothea. Dychmygais gôr o ferched yn unig yn canu mewn ceudwll yn Llechwedd. Dychmygais rhywbeth tu hwnt i’r hyn rydym yn ei wybod / adnabod, y pethau gor-gyfarwydd o ddarllen Kate Roberts a T Rowland Hughes.
Nod yr artistiaid gyda’r prosiect ‘Merched Chwarel’ yw darganfod beth yn union yw dehongliad y ferch ar y gofod / gwagleoedd anferth sydd yn cael eu creu drwy’r broses chwarelyddol. Y mynydd gwag. Rydym yn cyffwrdd ac archaeoleg yma – beth yn union mae’r dystiolaeth yn ei awgrymu? Mae cysylltiad teuluol gan rai. At ba ganlyniad celfyddydol fydd y cysylltiad teuluol yn arwain?
Soniai’r artistiaid benywaidd am greu celf drwy gerdded a phwysigrwydd felly y broses o gerdded drwy’r chwareli a phrofi a dehongli – anadlu’r awyrgylch a chreadigrwydd wedyn yn deillio o hynny. Rydym yn son felly am seicoddaearyddiaeth sydd yn ymestyn tu hwnt i’r profiad yn unig – mae hyn yn seicoddaearyddiaeth sydd yn arwain tuag at greu celf.
O ddarllen y maniffesto, sydd i’w weld ar lein ar safle lindseycolbourne.com/merched-chwarel cawn ddeall fod Iaith a Diwylliant yn agwedd holl bwysig o brosiect Merched Chwarel. Mae’n rhaid iddi fod felly. Ond yn ychwanegol cawn gydnabyddiaeth fod damcaniaethau yr arlunydd Iwan Bala ynglyn a ‘chadwraeth estheteg’ yn cael ei ystyried fel rhan allweddol o’r prosiect.
Peth braf yw gweld artist Cymreig yn cael parch a chydnabyddiaeth ond mae hyn hefyd yn angenrheidiol er mwyn gallu symud yr agenda yn ei flaen. Heb os, mae prosiect hynod gyffrous ar y gweill yma – a gallaf awgrymu hynny ar sail celfyddydol yn unig. Ond yn bwysicach byth, mae yna gwestiwn sylfaenol yn cael ei ofyn yma. Wrth gerdded i mewn i’r ystafell gyfarfod yn yr Amgueddfa Llechi sylweddolais cyn llied roeddwn yn ei wybod am rôl y ferch yn y chwarel. Tu hwnt i’r amlwg ‘gadw tŷ’ a’r pethau amlwg ddarllenais gan Kate.Yn amlwg heb Mam yn ‘cadw’r tŷ’ mi fyddai bywyd y dynion yn disgyn yn ddarnau o fewn dyddiau ond ………
Rhyfedd o beth yw sylweddoli fod talp anferth o hanes wedi ei golli yma. Drwy or-ramantu am y bywyd caled dynol yn y chwareli rydym wedi llwyr anwybyddu rôl y ferch. A dyma ordfod syllu yn uniongyrchol i’r drych dynol. A oedd yna unrhyw rôl i’r ferch o fewn ffiniau’r chwarel go iawn?
Beth bynnag ddigwyddith hefo prosiect Merched Chwarel, mi fydd yna gelf diddorol yn cael ei greu a chwestiynau diddorol yn cael eu codi.