Saving Private… Roberts?

Hanes Teulu Ceunant Isaf a’r Rhyfel Mawr

gan Elin Tomos


Yn ystod y cyfnod clo, mi nes i wylio Saving Private Ryan am y tro cyntaf – ffilm sy’n dilyn ymdrech criw o filwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ddod o hyd, ac i achub ‘Private Ryan’, yr unig un allan o bedwar brawd sydd dal yn fyw. Yn ôl y sôn, mae’r ffilm i ryw raddau yn seiliedig ar hanes y brodyr Niland o Tonawanda, Efrog Newydd: Edward, Preston, Robert a Fredrick. Un teulu o blith nifer a gollodd mwy nag un mab yn ystod y Rhyfeloedd Byd.[1]

Ceunant Isaf, Nantperis erbyn heddiw

Ceunant Isaf, Nantperis erbyn heddiw

Wedi gwylio’r ffilm, mi nes i ddechrau meddwl yn nes at adra’ – a gofyn, ysgwni faint o frodyr fu ynghlwm â’r brwydro yn Nyffryn Peris? Gan graffu’n benodol ar ddigwyddiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf, dyma gipolwg ar hanes pedwar o frodyr a ymrestrodd ym 1914: Robert ‘Bob’ Roberts (g. 1887), John Edward Roberts (g. 1890), Thomas ‘Tommy’ neu ‘Twm’ Roberts (g. 1893) a Josiah ‘Jos’ Roberts (g. 1895).

Teulu Roberts, Ceunant Isaf, Nantperis

Does dim gwadu’r ffaith mai teuluoedd mawrion oes Fictoria a wnaeth y Rhyfel Mawr yn bosib.[2] Ac un o’r teuluoedd mawrion hynny, oedd teulu Hannah ac Edward Roberts, Ceunant Isaf, Nantperis. Allan o’r un-ar-ddeg o blant a anwyd, bu farw dau yn ystod eu plentyndod, gan adael naw: Robert (Bob), John, Thomas (Tommy neu Twm), Josiah (Jos neu Jo), Mary, Eliza, Idwal, Owen a Margaret.

Oni bai am fanylion y Cyfrifiadau Cenedlaethol ‘does ‘na ddim ryw lawer o wybodaeth am hanes y teulu. Roedd Edward, y tad, yn enedigol o Gapel Curig a bu’n gweithio am gyfnod yn Nyffryn Ogwen cyn symud i Nantperis a phrodi Hannah, merch o’r plwyf. Bu’r teulu yn byw am gyfnod yn ‘Office’ ger Cwmeilir Isaf, cyn symud i Glan-llyn (tŷ a ddinistrwyd yn ystod adeiladu Pwerdy Hydro Dinorwig) ac yna i Geunant Isaf, ar lethrau Y Garn.

Yn ôl manylion Cyfrifiad 1911, yr olaf cyn y Rhyfel, roedd Edward, y tad, yn gweithio fel ‘Rockman in Slate Quarry’, John fel ‘Loader in Slate Quarry’, Thomas fel ‘Quarryman’, a Josiah fel ‘Apprentice Quarryman.’ Roedd pob un ohonynt yn siaradwyr uniaith Gymraeg – ac eithro, Thomas – yn ei fwlch ef, fe roddwyd croes trwy ‘Welsh’ er mwyn ychwanegu ‘Both.’ Am ryw reswm, ‘does dim cofnod o’r mab hynaf Robert, neu ‘Bob’, ar Gyfrifiadau 1911 ‘na chwaith 1901.

Manylion Cyfrifiad Ceunant Isaf, Nantperis (1911)

Manylion Cyfrifiad Ceunant Isaf, Nantperis (1911)

 Yn draddodiadol, mae tuedd wedi bod i gymryd yn ganiataol mai capelwr oedd pob chwarelwr, ond, er gwaethaf cryfder Anghydffurfiaeth ar draws y broydd llechi, mae’n ymddangos mai teulu o Eglwyswyr oedd teulu Ceunant Isaf. Mae hyn efallai yn esbonio pam nad oes ryw lawer o gyfeiriadau at y teulu yn y papurau newydd gan fod gohebydd lleol Nant fel rheol yn gosod pwyslais mawr ar ddigwyddiadau’r Capel, er enghraifft rhestru mynychwyr y cyrddau gweddi llwyddiannus neu enillwyr y gystadleuaeth lenyddol ddiweddaraf.

Dwi wedi dod ar draws dau gyfeiriad yn unig at deulu Ceunant yn y papurau newydd cyn y Rhyfel, sef, penodiad Edward Roberts, y tad, ym 1910 i'r swydd bwysig o oleuo lampau’r pentref a chofnod o salwch John Roberts, un o’r brodyr, o dan ofal Prif Lawfeddyg Ysbyty Chwarel Dinorwig, R. H. Mills Roberts, eto yn 1910.

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr mi roedd y diwydiant llechi Cymreig eisoes mewn trafferthion a phan gyhoeddwyd rhyfel ar 4 Awst 1914 fe ostyngodd y galw am lechi yn sylweddol wrth i’r farchnad adeiladu grebachu. Erbyn mis Medi 1914 roedd chwareli Oakeley, Llechwedd, Maenofferen, Penrhyn a Dinorwig yn gweithio 3 diwrnod yn unig. Yn Nyffryn Nantlle bu effaith y Rhyfel yn fwy handwyol fyth gyda nifer o chwareli yn cau’n gyfan gwbwl gan adael 1,170 o ddynion yn ddi-waith yn Nantlle erbyn Medi 1914. Rhwng 1914-1918 caewyd 29 o chwareli llechi ar draws y gogledd-orllewin.

Quarrymen at Ponc Swallow in 1907 © Amgueddfa Cymru

Quarrymen at Ponc Swallow in 1907 © Amgueddfa Cymru

O ystyried bod cymaint o chwarelwyr yn segur, roedd rhai gohebyddion o’r farn nad oedd digon o fechgyn o bentrefi’r chwareli wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog; gyda llawer yn honni mai diffygion eu haddysg Gymreig, Anghydffurfiol oedd wrth wraidd y broblem. Ar sawl achlysur bu’n rhaid i ddirprwyon Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ddarbwyllo’r cyhoedd bod chwarelwyr y gogledd yr un mor barod ag unrhyw garfan arall o weithwyr i ymrestru. Erbyn mis Ionawr 1915, honnwyd bod 1 o bob 7 chwarelwr yng ngogledd Cymru wedi ymrestru, a gan ystyried y niferoedd a oedd dros 45 mlwydd oed (felly’n rhy hen i ymuno) roedd y ffigwr yn nes at 1 o bob 5.[3] Ym marn yr Undeb roedd y rheiny a oedd mor barod i siarad yn erbyn ymroddiad y chwarelwyr ddim yn ystyried cynifer o fechgyn oedd wedi gadael yr ardal ar drothwy’r rhyfel yn sgil trafferthion y diwydiant.

Y Parchedig John Williams, Brynsiencyn gyda’i gyfaill  David Lloyd George

Y Parchedig John Williams, Brynsiencyn gyda’i gyfaill
David Lloyd George

Ar 2 Medi 1914, gwta fis wedi’r datganiad rhyfel, cynhaliwyd y cyfarfod ymrestru cyntaf yn Llanberis yn y Concert Hall. Yn annerch y ‘neuadd orlawn’ yr oedd Cyrnol Owen Thomas, Cyrnol Cotton a’r drwg-enwog Parchedig John Williams, Brynsiencyn, Caplan Anrhydeddus Bataliwn y 38ain Adran Gymreig, gweinidog a oedd yn dewis pregethu o’r pwlpud yn ei lifrau milwrol. Roedd Williams yn credu bod dyletswydd ar weinidogion i annog dynion i ymuno â’r lluoedd arfog, rhoddodd fri ar yr hen ddihareb Cymraeg: ‘gwell angau na chywilydd’ wrth iddo gymell chwarelwyr ifanc i ymrestru dros eu gwlad. Yn Llanberis, ‘yn ol ei arfer cariodd [Williams] y dorf fawr gydag ef.’ Yn ei araith aeth ati i godi cywilydd ar ei wrandawyr, gan ddatgan ‘mai rhyfel er amddiffyn rhyddid, ac iawnder ydoedd.’[4] Ym marn Williams

'Os y gallai unrhyw un yn Llanberis aros yn ddigyffro yn yr argyfwng presennol, yr oedd ei ddynoliaeth wedi darfod… Os byddai i Germani ymosod arnom, beth ddaw o’n crefydd, ein hiaith, a’n sefydliadau?’[5]

Yn ystod y misoedd cynnar, aethpwyd ati i recriwtio milwyr drwy gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a chyhoeddi llenyddiaeth gwladgarol megis posteri a hysbysebion. O ran y wasg, mi roedd rhai o hoff bapurau newydd pentrefi’r chwareli gan gynnwys Yr Herald Cymraeg, Y Genedl Gymreig, Y Cymro a Baner ac Amserau Cymru hefyd yn deyrngar dros achos y rhyfel. 

Erbyn diwedd mis Hydref 1914, mi roedd tri o frodyr Ceunant wedi ymuno â’r Lluoedd Arfog: John, Tommy a Josiah. Anfonwyd Tommy i Wrecsam, Josiah i Northampton a John i Gaernarfon. Yn Yr Herald Cymraeg, gyda chryn falchder, adroddwyd ‘er mai bechan yw ein hardal [Nant] ni, fe’i cynrychiolir’, ac fe gynhwyswyd rhestr faith o hogia’ Nant oedd eisoes wedi ymuno. Ychwanegwyd sylw arbennig ar ddiwedd y rhestr a oedd yn pwysleisio’r ffaith bod ‘tri mab Hannah ac Edward Roberts, Ceunant, wedi ymuno.’[6] Cyn diwedd y flwyddyn, roedd Robert neu Bob, y brawd hynaf hefyd, gyda’i frodyr yn y fyddin gan olygu bod pedwar o feibion Hannah ac Edward bellach wedi ymrestru.

13eg Bataliwn Royal Welsh Fusiliers yn sefyll o flaen Pafiliwn Caernarfon © Casgliad y Werin

13eg Bataliwn Royal Welsh Fusiliers yn sefyll o flaen Pafiliwn Caernarfon © Casgliad y Werin

 ‘…mae yma le go wag yn yr ardal yma hebddynt.’ [7]

‘Mi fydd o drosodd erbyn y Nadolig’, dyna oedd y gred ar sawl aelwyd pan ddechreuodd y Rhyfel ym mis Awst. Bu’r misoedd cyntaf i’r mwyafrif o filwyr yn gyfnod o hyfforddiant dwys ac er na fu diwedd ar y rhyfel ym mis Rhagfyr 1914 mi gafodd nifer o fechgyn ddychwelyd adra i dreulio’r Nadolig gyda’u teuluoedd. Wedi cyfnod yn hyfforddi yn Basingstoke a Salisbury Plain, ‘lle y bu dan ymarferiadau milwrol caled iawn’ fe ddaeth Tommy yn nol i Nant i dreulio’r Nadolig.’[8] Dychwelodd John adref ar ôl cyfnod yn hyfforddi yn Aberystwyth. Does dim sôn am Josiah ‘na Bob.

Ond sut oedd mynd ati i groesawu milwr gartref? Yn ôl cylchgrawn Y Gymraes roedd hi’n holl bwysig i fam ddangos ei bod wedi paratoi ar gyfer dychweliad ei mab, neu, yn achos Hannah Roberts, ei meibion.

SUT I DDERBYN Y BACHGEN ADREF. – Bydded ei ystafell wely yn lân a destlus. Trwsiwch a threfnwch ei ddillad, a dodwch yn daclus yn y dror. Gofalwch fod yr hosannau a’r socs yn lân ac yn gyfan. Coler, cyffs, tie, hances, yn barod, os bydd arno eu hangen. Papur ysgrifennu, stamps, ysgrif-bin, potel inc, &c., popeth yn hwylus, ei ddillad a’i eiddo oll yn y drôrs gyda’u gilydd. Gadewch i bob congl yn y ty ddangos eich bod yn ei ddisgwyl adref, pa bryd bynnag y daw.[9]

Erbyn Haf 1915 roedd ‘amryw o fechgyn y Nant yn y frwydr yn y Dardanelles.’ Roedd ‘pryder yr ardal yn eu cylch yn troi yn weddi trostynt am iddynt gael yr amddiffyn dwyfol, i ddod yn ol i dawelwch a heddwch yr Hen Wlad.’[10]

Dardanelles, 1915. © IWM

Dardanelles, 1915. © IWM

Mi roedd y Dardanelles – llain gul o ddŵr 60 milltir o hyd sy'n gwahanu Ewrop ac Asia – wedi bod o bwysigrwydd strategol mawr ers canrifoedd a phan gaewyd y Dardanelles yn niwedd mis Hydref 1914 llusgwyd yr Ymerodraeth Otoman i'r rhyfel ar ochr yr Almaen. Bwriad yr ymgyrch oedd agor trydydd ffrynt a sicrhau llwybr clir dros y môr o Gulfor y Dardanelles i Rwsia yn ogystal â threchu’r Otomaniaid a thrwy hynny, tanseilio grym yr Almaen.

Ar 19 Chwefror 1915, mi ymosododd llongau Prydain a Ffrainc ar y Dardanelles. Yn sgil ymosodiadau didrugaredd peli ffrwydrol yr Otomaniaid, daeth yr ymladd i ben gydag anhawster mawr ar 18 Mawrth 1915. Ar 25 Ebrill gwelwyd glaniadau milwrol ar benrhyn Gallipoli ond fe orchfygwyd pob ymgais newydd. Cafwyd ymdrechion drachefn ym mis Awst 1915 wrth i nifer o fataliynau Cymreig lanio ym Mae Suvla: yn eu plith, roedd brodyr Ceunant Isaf.[11] 

Ar 24 Awst 1915 derbyniodd Hannah Roberts, Ceunant, ‘hysbysrwydd o’r Swyddfa Ryfel, fod Bob ei mhab wedi ei glwyfo yn beryglus yn y Dardanelles’ a’i fod ‘ar hyn o bryd yn yr ysbyty yn Alexandria yn yr Aifft.’ Disgrifiodd gohebydd Yr Herald Cymraeg Bob fel ‘bachgen ieuanc poblogaidd iawn yn yr ardal.’[12]

Ymhen pythefnos roedd un arall o frodyr Ceunant yn glaf mewn ysbyty, erbyn dechrau Medi 1915 roedd Josiah wedi’i glwyfo yn y Dardanelles ac wedi cael ei anfon adra, treuliodd gyfnod mewn ysbyty milwrol ym Mryste cyn dychwelyd i Nant. Yn naturiol, bu croeso mawr iddo ‘yn ol yn yr hen ardal’ gyda thrigolion Nant yn mwynhau ‘gwrando arno yn dweud ei brofiad yn y tan yn neillduol a dyddorol.’[13]

Defod gyffredin ym mhapurau newydd Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr oedd yr arfer o argraffu llythyrau gan filwyr. Ym mis Medi 1915, argraffwyd llythyr John Roberts, Ceunant Isaf yn Yr Herald Cymraeg:

‘Rydym yn y Dardanelles e’rs tair wythnos i heddyw… mae llawer o’r hogiau yn wael, effaith y dwfr, neu heb ddod i ddygymod a’r hin, ond yr wyf fy hun yn berffaith iach.’

Yn ei lythyr, mae John yn trafod anafiadau ei frodyr ac yn cyfeirio at rai o fechgyn Nant a oedd hefyd yn y Dardanelles:

‘Mae Jos. [Josiah, ei frawd] wedi ei frifo yn ei benlin chwith, ac hefyd Bob [Robert, ei frawd] wedi ei glwyfo y diwrnod cyntaf… Mae Bob John a Tommy Phillips [y ddau yn byw yn Glanrafon Terrace] a Gwilym [Glan-llyn] yn berffaith iach hyd yn hyn.’

Digon diniwed yw ei gyfarchion i’w rhieni, mae’n eu hatgoffa, ‘Cofwich fi at bawb yna. Mr. Lunt yn enwedig’, sef Curad Eglwys Sant Peris. Gofynai hefyd am ‘tipyn o cigarettes, hefyd buaswn yn leicio cael ychydig o rywbeth i’w fwyta, ond wn i ddim beth wna gadw i ddod yma – rhyw damed o fara brith neu fiscuits?’ Cyn gorffen yn ingol trwy rannu ei obeithion ar gyfer y dyfodol:

‘Wel terfynaf yn awr gan obeithio eich bod i gyd yn iach a hapus, a bydd y rhyfel yma drosodd yn fuan i ni gael dod adref erbyn Nadolig fan bellaf. Gallwch fod yn sicr y byddaf yn falch iawn o gael dod yn ol i’r hen wlad.

Hyn yn fyr oddiwrth eich mab, John.’[14]

Lladdwyd John Roberts ar 23 Tachwedd 1915 wedi iddo gael ei saethu yn ei ben. Mi roedd John yn 24 mlwydd oed.

Erthygl Er Cof am Preifat J. Edward Roberts, Y Genedl Gymreig,  25 Ionawr 1916..

Erthygl Er Cof am Preifat J. Edward Roberts, Y Genedl Gymreig,
25 Ionawr 1916..

Ym mis Rhagfyr 1915 argraffwyd llythyr un o gyfeillion John, Tommy Phillips Thomas, Glanrafon Terrace, Nantperis yn y Dinesydd Cymreig. Mi roedd Tommy yr un oed â John, Ceunant ac roedd yntau wedi bod yn chwarelwr cyn ymrestru. Yn ei lythyr, mae Tommy’n adrodd iddo dderbyn

‘Newyddion drwg iawn, sef fod Bob John [Private Robert John Thomas, Glanrafon Terrace] wedi marw mewn ysbyty… Piti dros Ann ei wraig, a’i bedwar plentyn. Daeth parsel iddo yma ddoe, a rhenais ef gyda Shon Ceunant, gan mai ni yw yr unig ddau sydd yma o’r Nant.’[15]

Pan argraffwyd llythyr Tommy Phillips, mi roedd John wedi marw ers cwta fis ond mae’n debyg mai ryw oedi wrth anfon neu gyhoeddi’r llythyr sy’n gyfrifol am amwysedd y manylion. Tybed a welodd Hannah, ei fam y llythyr yma ym mis Rhagfyr 1915 a hithau eisoes yn ymwybodol o farwolaeth ei mab?

Mae sawl llythyr gwahanol a ysgrifenwyd gan hogia’ Nant ac a argraffwyd yn y papurau newydd yn dangos bod llwybrau’r hogia yn aml yn croesi a’u bod wedi aros yng nghwmni ffrindia’ tra’n brwydro. Gan fod nifer o fataliynau Cymreig wedi cymryd rhan yng Nghyrch Gallipoli a’r ymdrech i gipio’r Dardanelles fe brofodd pentrefi cyfan golledion sylweddol a ‘toedd Nant ddim gwahanol.

Bu cost ymgyrch y Dardanelles yn Nantperis yn ddirfawr. Erbyn mis Ionawr 1916, mi roedd bob un o’r hogia ac eithrio un (Willam Closs, Tanybryn) wedi eu hanafu, eu lladd neu ar eu gwely angau. Mi roedd dau wedi marw’n barod (Robert John Thomas, Glanrafon Terrace a John Roberts, Ceunant) dau (Gwilym Williams, Glan-llyn a Robert Phillips, Stamps) yn bur wael mewn ysbyty yn Manceinion, un (Hugh Griffith, Bron Wyddfa) mewn ysbyty yn Portsmouth, un (Tommy Phillips Thomas) mewn ysbyty yn Cairo and un (Robert Williams, Glanrafon Terrace) mewn ysbyty ym Malta. Gyda chymaint o deuluoedd yn Nant yn gofidio ac Edward a Hannah Roberts eisoes yn galaru colli John mae’n siwr bod teulu Ceunant Isaf wedi cael cryn dipyn o ryddhad wrth weld eu meibion, Tommy a Josiah yn dychwelyd adra dros gyfnod y Nadolig ym 1915. Adroddwyd yn Yr Herald Cymraeg fod Tommy wedi cael ‘dihangfa wyrthiol bron pan yn ymladd yn Ffrainc.’ Roedd hi’n dda gan drigolion Nant ‘ei weled wedi gwella mor dda.’[16]  

Ar Ddydd San Steffan 1915,

Cofnod Pensiwn John Roberts, Ceunant  – taliadwy i’w fam Hannah a’i frawd Tommy.

Cofnod Pensiwn John Roberts, Ceunant
– taliadwy i’w fam Hannah a’i frawd Tommy.

‘yn Eglwys Peris Sant, cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol ein diweddar frawd, Private John Roberts, 1/6th Batt. R.W.F., yr hwn a gafodd ei ladd trwy gael ei saethu yn ei ben, yn y Dardanelles… Cydymdeimlir yn fawr a’i rieni, sef Mr a Mrs Roberts, Ceunant. Mae ganddynt dri mab arall wedi eu clwyfo ar faes y gwaed, sef Bob, wedi ei glwyfo er’s rhai misoedd yn y Dardanelles, ac ar hyn o bryd yn Malta mewn Yspytty. Josiah, yntau wedi ei glwyfo yn y Dardanelles ond wedi gwella digon i ail-gychwyn; mae y pedwerydd [Tommy] adref ar ychydig seibiant ar ol ei glwyfo yn Ffrainc.’[17]

Bedd teulu ym Mynwent Nantperis

Bedd teulu ym Mynwent Nantperis

Trwy ryw wyrth fe oroesodd Josiah, Tommy a Bob ac fe symudodd y teulu i fyw o Ceunant i 4 Glanrafon Terrace.

O gofdail gofidiau – tad a mam

Tydi mwy drwy’r oesau.

Ddysgi ffordd i ddwys goffhau

Y rhwyg o golli’r hogiau.

R. Williams Parry


Plaque in Rehoboth Chapel for the boys who lost their lives during the Great War

Plaque in Rehoboth Chapel for the boys who lost their lives during the Great War

[1] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn trasiedi’r brodyr Sullivan (pan laddwyd pump o frodyr yn dilyn ymosodiadau ar USS Juneau ym mis Chwefror 1942) gwelwyd ymdrechion o fewn y lluoedd i wahanu brodyr. Ym 1948, pasiwyd deddf yn yr U.D.A. i amddiffyn unigolion a oedd eisoes wedi colli aelodau o'r teulu o achos gwasanaeth milwrol.

[2] Am ddarlun trawiadol o effaith y Rhyfel Mawr ar lawr gwlad – ar deuluoedd a pherthnasau – mae’n werth darllen cyfrol Alan Llwyd, Colli’r Hogiau (Llandysul, 2018)

[3] Yr Dinesydd Cymreig, 20 Ionawr 1915, t. 3.

[4] Yr Herald Cymraeg, 8 Medi 1914, t. 5.

[5] Y Dinesydd Cymreig, 9 Medi 1914, t. 5.

[6] Yr Herald Cymraeg, 27 Hydref 1914, t. 5.

[7] Yr Herald Cymraeg, 29 Rhagfyr 1914, t. 5.

[8] Yr Herald Cymraeg, 29 Rhagfyr 1914, t. 5.

[9] Y Gymraes, Ionawr 1915.

[10] Yr Herald Cymraeg, 31 Awst 1915, t. 5.

[11] Ac eithrio Tommy, roedd Tommy yn brwydro yn Ffrainc tra’r oedd Josiah, John a Bob yn y Dardanelles.

[12] Yr Herald Cymraeg, 31 Awst 1915, t. 8.

[13] Yr Herald Cymraeg, 21 Medi 1915, t. 5.

[14] Yr Herald Cymraeg, 28 Medi 1915, t. 7.

[15] Y Dinesydd Cymreig, 15 Rhagfyr 1915, t. 8.

[16] Yr Herald Cymraeg, 4 Ionawr 1916, t. 7.

[17] Y Llan, 31 Rhagfyr 1915, t. 5.