Rhiannon Gwyn
Crawiau
I am originally from Sling near Bethesda but at the moment living and working in Cardiff where I am in my final year studying a degree in BA (Hons) Artist Designer: Maker at Cardiff Metropolitan University.
My most recent work is influenced by the landscapes of Snowdonia and my interpretation of the quarries of North Wales which has led me to work primarily with slate.
I have developed a great interest in the manipulation and merging of materials and their potential to simultaneously highlight and re-write their existing narratives. My work explores the relationships we have with our surroundings, specifically how we imprint emotions and experiences onto objects and materials around us and the way in which they therefore exist in relation to us.
I am drawn towards the feeling of place and all the emotions that it holds … a longing for something that once was, an interest in the traces left behind, a curiosity for what will be and the connections made between self and land. I communicate these thoughts and feeling through my work which often explore a wide range of materials through a multi-disciplinary approach.
Crawiau
Traces and echoes, mark and resonance, materiality and meaning, ruins and remains are the themes I’ve responded to in this piece with marks being made through the combination of slate, stitch, and print. This wall piece replicates ‘crawiau’, the traditional slate fences that are located in quarrying villages around north Wales.
This work explores slate and the sense of place it represents, the history and tradition embedded within the material inspired me to respond to the way in which we notice and experience the passage of time and the traces of life left behind.
The silence of an empty quarry and how nature gradually re-enters and reclaims old quarries has inspired the marks and textures that have been etched on to the surfaces of these slates. Images of foliage gradually spreading on the hard stone act as a symbol of renewal and hope that alleviate the scars on the rock.
The existence of the quarry and the scars left behind reminds me of our existence as people, we and the world around us are all transient beings and we find comfort in the traces and markings that we and others before us have left behind as well as the connections made between self and land.
Rwyf yn wreiddiol o Sling ger Bethesda, Gogledd Cymru ond ar hyn o bryd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd lle rwyf yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio ar gyfer y cwrs gradd BA (Anrhydedd) Artist Dylunydd: Gwneuthurwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae fy ngwaith fwyaf diweddar yn seiliedig ar dirwedd Eryri ac mae fy nehongliad o chwareli Gogledd Cymru wedi fy arwain i weithio gyda llechi yn bennaf.
Rwyf wedi datblygu diddordeb mawr mewn trin a chyfuno deunyddiau a'u potensial i amlygu ac, ar yr un pryd, ailysgrifennu eu naratifau presennol. Mae fy ngwaith yn archwilio’r berthynas sydd gennym gyda’n hamgylchedd, yn benodol sut rydym yn argraffu emosiynau a phrofiadau ar wrthrychau sydd o'n cwmpas, a’r ffordd y maent yn bodoli mewn perthynas â ni.
Rwy’n cael fy nhynnu tuag at y teimlad o le a'r holl emosiynau sydd ynddo ...hiraeth am rywbeth a fu yno un tro, diddordeb yn yr olion sydd ar ôl, chwilfrydedd am yr hyn a fydd, a'r cysylltiadau a wneir rhwng yr hunan a’r tir. Rwy'n cyfleu'r meddyliau a’r teimladau hyn trwy fy ngwaith sy'n aml yn archwilio amrywiaeth eang o ddeunyddiau trwy ddull amlddisgyblaethol.
Crawiau
Creithiau ac adleisiau, deunydd ac ystyr, materoldeb ac ystyr, adfeilion a gweddillion yw rhai o’r themâu rwyf wedi ymateb iddynt yn y darn hwn trwy arbrofi a chreu marciau gyda llechi, pwyth a phrint. Rwyf wedi creu gosodiad sy'n efelychu 'crawiau' y ffensys llechi traddodiadol sydd wedi'u lleoli ym mhentrefi chwarelyddol Gogledd Cymru.
Mae'r gwaith hwn yn archwilio llechi a’r syniad o le maent yn eu cynrychioli, mae’r hanes a’r traddodiad sydd wedi’u gwreiddio yn y deunydd wedi fy ysbrydoli i ymateb i’r ffordd yr rydym yn sylwi ac yn adfyfyrio ar amser yn mynd heibio, ac olion bywyd caiff eu gadael ar ôl.
Mae’r distawrwydd mewn chwarel wag a’r ffordd y daw natur yn raddol i ail-hawlio’r hen chwareli wedi ysbrydoli’r marciau a’r gweadau sydd wedi eu crafu ar arwynebau y llechi hyn. Mae’r delweddau o ddail a gwyrddni yn lledaenu’n raddol ar arwyneb y llechi caled yn cynrychioli symbol o adnewyddu a gobaith sy’n lleddfu’r creithiau ar y graig. Mae bodolaeth y chwarel ac olion y diwydiant a adawyd ar ôl yn fy atgoffa o'n bodolaeth fel pobl, rydym ni a'r byd o'n cwmpas yn bethau bregus a byrhoedlog sydd yma dros dro a chawn gysur o’r olion a'r marciau rydym ni ac eraill o’n blaenau wedi eu gadael ar ein holau yn ogystal â’r cysylltiad a wneir rhwng yr hunan a’r tir.
..