Jwls Williams
Cefndir - Background
Mae fy ngwaith celf yn ymwneud a thirwedd ddiwydiannol Gogledd Cymru. Y chwareli, yn enwedig Penmaenmawr, lle mae’r tair cenhedlaeth ddiwethaf o’m teulu wedi treulio eu hoes waith.
Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd mae hanes diwydiannol, diwylliannol a daearegol wedi gadael eu hôl ar y dirwedd, yr effaith chwarela ar raddfa fawr, dinistrio ffurf a’r rhythmau gofodol sy’n parhau at heddiw. A minnau wedi tyfu i fyny ar ochr y mynydd chwarel, y mae fy mheintiadau yn adlewyrchu fy mherthynas bersonol a lle; fy nghynefin a’n treftadaeth o fewn cyd-destun y dirwedd ehangach. Roeddwn wrth fy modd mynd fyny’r chwarel gyda Taid ers talwm, a syfrdanu ar l le a sut roedd yn gweithio, gan weld fy tri ewythr dal yno. Yn fwy diweddar dechreuais gwestiynu paham mae’r cysylltiad yma mor gryf?
Fel 'merch y chwarel' mae'r prosiect hwn yn agor llawer o ddrysau, a phosibiliadau creadigol o gydweithio a rhannu syniadau gyda chyd-artistiaid.
Y mae fy nghysylltiad creadigol â chymunedau ac ysgolion yn parhau. Rwyf yn artist preswyl ar brosiect Llwybr Llechi Eryri, sy'n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth o'n treftadaeth a'n diwylliant llechi. O edrych ar y llwybr 85 milltir, rwyf wedi ymateb i effaith y diwydiant hwn ar fywyd, diwylliant a thirwedd yr ardal.
Jwls Williams is an industrial landscape painter who grew up on the side of a quarried mountain where three generations of her family had spent their working lives:
I am interested in the way industrial, social, cultural and geographical histories have shaped and left their mark on the landscape.
I often visited the quarry as a child with my Taid and my uncles and was fascinated with where they worked. I recently questioned why, as a female descendant of quarry workers this connection is so strong? As ‘merch y chwarel’ this project opens many doors and possibilities with the creative excitement of collaborating and sharing ideas with fellow artists.
My creative involvement with communities and schools is on-going. I am currently resident artist of the Snowdonia Slate Trail project which aims to increase awareness of our slate heritage and culture. From exploring the 85-mile trail I visually respond to the impact of this industry on the life, culture and landscape of the area.